top of page

Cylch Meithrin y Fenni

Rydym yn aelod o'r Mudiad Meithrin, y rhwydwaith gwirfoddol cenedlaethol o gylchoedd chwarae.

Mae Cylch Meithrin y Fenni yn feithrinfa cyfrwng Cymraeg di-elw yn y Fenni, ar agor bob tymor yn ystod yr wythnos o 8 am-3pm. Fe'i sefydlwyd yn 2005. Rydym yn darparu gofal plant cyn-ysgol i blant 2-4 oed trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys crefft, paentio, darllen, chwarae dychmygus a theganau blynyddoedd cynnar dan do, gydag ardal chwarae y tu allan gan gynnwys dŵr, tywod, adeiladu , ac offer chwarae. Ein nod yw darparu awyrgylch teuluol hapus lle mae plant yn dysgu Cymraeg trwy chwarae. Mae ein hathroniaeth yn canolbwyntio ar y Cyfnod Sylfaen, lle mae datblygiad iaith yn cael ei feithrin gan gemau, straeon, rhigymau bys a chaneuon.

​

​Rydym yn croesawu plant o bob cefndir, yn enwedig rhai di-Gymraeg sydd eisiau i'w plant ddatblygu sgiliau dwyieithog o oedran cynnar.

41166750_1825869950840965_13180707023093
Amdanom ni: About
bottom of page